This is a past event. Registration is closed. View other Technology Connected events.

Mae technoleg yn galluogi ac yn effeithio ac yn dylanwadu ar bob agwedd ar ein ffordd o fyw a gweithio, ac mae ein byd yn fwy cysylltiedig ac yn symud yn gyflymach nag erioed o'r blaen.


Yn wyneb y tarfu byd-eang, sut gallwn ni ddefnyddio ac uno technoleg ar draws marchnadoedd a sectorau i aros yn gryf ar ôl Covid-19 ac adeiladu dyfodol ffyniannus sydd wedi'i alluogi ar gyfer technoleg ar gyfer ein heconomi?


Yn y sesiwn Bwrdd Crwn unigryw hwn, byddwch chi'n ymuno â rhai o ffigyrau mwyaf dylanwadol Cymru ym maes technoleg wrth iddynt rannu gwybodaeth a thrafod cyfleoedd newydd a chyffrous ar gyfer cydweithio yng Nghymru a'r tu hwnt.


Gyda chefnogaeth tradeandinvest.wales​ a Technology Connected, mae'r digwyddiad hwn sydd am ddim yn rhoi'r cyfle i chi holi a gwrando ar rai o Gyngor Arweinyddiaeth Technoleg Cymru, sy'n cynnwys uwch ffigyrau o rai o fusnesau technoleg mwyaf a mwyaf dylanwadol y byd ynghyd ag arweinwyr o rai o gwmnïau ifanc mwyaf arloesol Cymru.


Bydd y digwyddiad yn cynnwys arbenigwyr o amrywiaeth o sectorau a marchnadoedd gan gynnwys Seiber, Technoleg Ariannol, Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Technoleg Feddygol, Creadigol a mwy. Bydd y digwyddiad yn rhoi cipolwg unigryw i'r diwydiant technoleg yng Nghymru a'i ddyfodol.


Gwybodaeth gan Arweinwyr: Dylunio ein Dyfodol Technoleg (14eg Gorffennaf am 18:30) yw prif ddigwyddiad Wythnos Technoleg Cymru. Mae'r digwyddiad am ddim ac yn cynnwys aelodau o Gyngor Arweinyddiaeth Technoleg Cymru, rhai o ffigyrau mwyaf dylanwadol Cymru ym myd technoleg, ynghyd â rhai o unigolion mwyaf cyffrous y wlad wrth iddynt rannu eu gwybodaeth a thrafod cyfleoedd newydd a chyffrous ar gyfer cydweithio yng Nghymru a'r tu hwnt.

Bydd y rheini a fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad bwrdd crwn yn cynnwys:

  • Gareth Williams, Is-lywydd Systemau Gwybodaeth a Chyfathrebu Diogel yn Thales Group, sydd hefyd yn aelod o Bwyllgor Rheoli Seiber Tech UK ac yn aelod o'r Cyngor RISC;


  • Anne Boden, Prif Weithredwr a Sylfaenydd Banc Starling Anne Boden yw sylfaenydd a phrif weithredwr Starling, banc digidol sy'n targedu miliynau o ddefnyddwyr sy'n byw eu bywydau ar eu ffôn. Aeth ati i sefydlu Starling yn 2014 ar ôl gyrfa lewyrchus ym maes bancio a hi yw'r fenyw gyntaf o Brydain i gychwyn banc. Mae ap Starling yn llawn adnoddau rheoli arian clyfar sy'n helpu cwsmeriaid i reoli eu harian a chadw llygad ar eu gwariant a'u cynilion mewn amser real. Mae'r Starling Marketplace yn galluogi cwsmeriaid i gael mynediad at wasanaethau ariannol trydydd parti drwy'r ap. Mae gan Starling dros 1.4 miliwn o gwsmeriaid ac mae dros £2.4 biliwn yn cael ei gadw ganddo. Mae Starling hefyd yn cynnig gwasanaethau talu a bancio B2B, ac mae ganddo tua 180,000 o gwsmeriaid busnes. Pleidleisiwyd mai hwn oedd Banc Gorau Prydain yn 2018, 2019 a 2020, ac fe ddyfarnwyd MBE i Anne am ei gwasanaethau i dechnoleg ariannol yn 2018;


  • Chris Meadows, Cyfarwyddwr CS Connected, yn cynrychioli clwstwr lled-ddargludyddion cyntaf y byd sy'n esblygu'n gyflym ar draws De Cymru a Gorllewin Lloegr. Roedd Chris yn rhan o'r tîm gwreiddiol yn Epitaxial Products International Ltd (EPI) yng Nghaerdydd yn 1988 a ddaeth yn IQE plc yn 1999 gyda'i bencadlys yng Nghaerdydd, wedi'i restru ar AiM (IQE.L) Cyfnewidfa Stoc Llundain ac yn cynnwys nifer o weithrediadau yn y DU, Asia ac UDA;


  • Avril Lewis MBE, Rheolwr Gyfarwyddwr Technology Connected, y sefydliad sy'n uno, yn hybu ac yn hyrwyddo diwydiant technoleg Cymru, ac sydd wedi creu Wythnos Technoleg Cymru. Cafodd Avril MBE yn 2018 am ei gwasanaeth i'r diwydiant technoleg;


  • Richard Print, Cyfarwyddwr, Wales Interactive, Mae Richard Pring yn gyfarwyddwr, yn gynhyrchydd, yn ddylunydd ac yn entrepreneur ym maes ffilm a gemau fideo, ac mae wedi ennill sawl gwobr. Mae wedi bod yn weithiwr proffesiynol ym maes adloniant ers dros ddegawd. Dechreuodd ei yrfa gyda chwmni Teledu ac Animeiddio Calon, cyn symud ymlaen at gydsefydlu ei stiwdio lwyddiannus ei hun, Wales Interactive, yn 2012.
  • Katy Chamberlain, Prif Weithredwr Business in Focus sy'n helpu busnesau i droi eu huchelgeisiau yn realiti. Treuliodd Katy dros 20 mlynedd gyda chwmni cyfrifyddu ac ymgynghori rhyngwladol KPMG yn arwain timau oedd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i fusnesau yng Nghymru, ac roedd hi hefyd yn Brif Weithredwr Chwarae Teg, y mudiad gweithgarwch cydraddoldeb.


Technology is impacting, enabling and influencing every aspect of how we live and work, with our world moving faster and becoming more connected than ever before.


In the face of global disruption, How can we join and leverage technology across markets and sectors to remain resilient post Covid-19 and build a technology enabled, prosperous future for our economy?


In this unique Round Table session, you'll join some of Wales' most influential figures in technology as they share learnings and explore new and exciting opportunities for collaboration in Wales and beyond.


Supported by tradeandinvest.wales and Technology Connected, this free event gives you the opportunity to learn from and submit questions to some of the Welsh Technology Leadership Council, comprised of senior figures from some of the world's largest and most influential technology businesses along with leaders from some of Wales' most innovative rising stars.


Featuring experts across a range of sectors and markets including Cyber, Fintech, Compound Semiconductors, MedTech, Creative and more, this event will give you a unique insight into the technology industry in Wales and its future.


Learnings from Leaders: Forging our Tech Future (14th July at 18:30) is a free headline event in Wales Tech Week, and features members of the Welsh Technology Leadership Council, some of Wales' most influential figures in technology, along with some of the country's rising stars as they share learnings and explore new and exciting opportunities for collaboration in Wales and beyond.


Participants in the round table event include:

  • Gareth Williams, VP Secure Communications & Information Systems at Thales Group, who also sits on the Cyber Management Committee of Tech UK and is a member of the RISC Council;


  • Anne Boden, CEO and Founder, Starling, a digital bank targeting millions of users who live their lives on their phones. She founded Starting in 2014 after a distinguished career in banking and is the first British woman to start a bank. The Starling app is loaded with smart money management tools to help customers control their finances and track their spending and saving in real-time. The Starling Marketplace allows customers in-app access to third party financial services. Starling is on has over 1.4 million customers and holds over £2.7 billion deposits. Starling also offers B2B banking and payments services and has around 180,000 business customers. It was voted Best British Bank in 2018, 2019 and 2020 and Anne was awarded an MBE for services to financial technology in 2018.


  • Chris Meadows, Director of CS Connected, representing the world's first compound semiconductor cluster that is rapidly evolving across South Wales and the West of England. Chris was part of the founding team at Epitaxial Products International Ltd (EPI) in Cardiff in 1988 which became Cardiff headquartered IQE plc in 1999, listed on the London Stock Exchange's AiM (IQE.L) and comprising multiple operations in the UK, Asia and the USA;


  • Avril Lewis MBE, Managing Director of Technology Connected, the organisation which unties, promotes and champions the Welsh technology industry, and the creators of Wales Tech Week. In 2018 Avril was awarded an MBE for her services to the technology industry;


  • Richard Pring, Director, Wales Interactive, a Multi-Award Winning film and video games director, producer, designer and entrepreneur. He has been an entertainment industry professional over a decade beginning his career with the Animation and Television company Calon then later going on to co-founding his own successful studio Wales Interactive in 2012.


  • Katy Chamberlain, Chief Executive of Business in Focus– Katy is the Chief Executive of Business in Focus which supports businesses in turning their ambition into reality. Katy spent more than 20 years with international accountancy and advisory firm KPMG, leading teams delivering a variety of services to businesses in Wales and is also the former Chief Executive of equality action organisation, Chwarae Teg.

Organisers