This is a past event. Registration is closed. View other Technology Connected events.

12 SEPTEMBER 2024 I 10AM TO 2.30PM I THALES, EBBW VALE CAMPUS

How can blockchain enhance your efficiency, security, and compliance? Can it truly improve security, streamline supply chains, and unlock new revenue opportunities?


Join us for an exclusive exploration into the transformative power of blockchain technology for businesses and industries. Organised by Technology Connected in collaboration with Cardiff Capital Regionand Cardiff and Vale College, this is your opportunity to discover how blockchain can transform the way that you do business.

What to expect


This workshop focuses on the benefits and real-world case studies. What can blockchain technology truly do to improve an organisation's operations and services? We'll delve into the reasons to adopt blockchain technology and its capabilities for business and industry alike. 


In today's rapidly evolving world, businesses are grappling with sustainability, performance optimisation, and cybersecurity threats. Is blockchain the missing link to your growth and innovation strategy?


Gain invaluable insights from real-world case studies showcasing blockchain's ability to enhance efficiency, bolster security, streamline supply chains, and reduce costs. Engage with industry experts, exchange ideas, and uncover actionable strategies to boldly integrate blockchain into your business model.

Blockchain can address:


  • Data Security: Blockchain protects data integrity by using cryptographic methods and decentralised storage, reducing vulnerability to cyber threats.
  • Operational Inefficiencies: Blockchain can reduce costs associated with inefficient processes by automating workflows and eliminating intermediaries.
  • Trust and Transparency: Blockchain fosters trust among stakeholders by providing a transparent and immutable ledger of transactions.
  • Supply Chain Complexity: Blockchain simplifies supply chain management by ensuring transparency and traceability across diverse stakeholders and regulatory frameworks.
  • Competitive Edge: Blockchain helps businesses stay competitive by enabling quick adaptation to market dynamics and facilitating innovative business models.


Join us for interactive sessions where these concerns will be explored. Refreshments will be provided to fuel meaningful conversations and connections.

Who should attend?


This blockchain event is tailored for both private sector and public sector businesses across the Cardiff Capital Region, encompassing:


  • Business Leaders: Especially those prioritising advancements in supply chain management, circular economy practices, Net Zero compliance, and digital record-keeping.
  • Decision Makers: Individuals with a focus on technology integration, digital transformation strategies, and leveraging data for organisational advancements.
  • Performance and Innovation Leaders: Professionals tasked with driving performance improvements and fostering innovation within their respective organisations.


Remaining competitive in today's global marketplace necessitates not only awareness but also potential adoption of blockchain technology. This workshop provides an essential platform to explore the transformative potential of blockchain and its applications across various industries.

Speakers

Technology Connected is the Network that unites people, industries, and technologies to connect, collaborate, and do business.


As the voice of the tech industry in Wales, we unify, promote, and champion the sector on the global stage. We spotlight Wales as a centre of expertise and opportunity for enabling and emerging technologies, showcasing their applications for today's business and society.

The Thales Ebbw Vale campus is a world class facility. It provides a collaborative environment and capability which enables the development and delivery of secure and resilient solutions for complex connected systems.


The Campus is home to the Global Research and Development Centre for security and resilience in OT, automotive and energy. Key to this capability is the Thales UK CyberLab at the core of which is the Cybels Range, a simulation and virtualisation platform for training, testing, exercising and R&D.

12 MEDI 2024 I 10AM - 2.30PM I THALES, CAMPWS GLYNEBWY

Sut y gall Blockchain wella eich effeithlonrwydd, diogelwch a chydymffurfiaeth? A all wir wella diogelwch, symleiddio cadwyni cyflenwi, a datgloi cyfleoedd refeniw newydd?


Ymunwch â ni am archwiliad unigryw i bŵer trawsnewidiol technoleg Blockchain ar gyfer busnesau a diwydiannau. Wedi'i drefnu gan Technology Connected mewn cydweithrediad â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd a Choleg Caerdydd a'r Fro, dyma'ch cyfle i ddarganfod sut y gall Blockchain drawsnewid y ffordd yr ydych yn cynnal eich busnes.

Yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl


Mae'r gweithdy hwn yn canolbwyntio ar y buddion ac astudiaethau achos o'r byd go-iawn. Beth all technoleg Blockchain ei wneud mewn gwirionedd i wella gweithrediadau a gwasanaethau sefydliad? Byddwn yn ymchwilio i'r rhesymau dros fabwysiadu technoleg Blockchain a'r hyn y gall ei gyflawni ar gyfer busnes a diwydiant. 


Mewn byd sy'n datblygu'n gyflym, mae busnesau'n ceisio mynd i'r afael â chynaladwyedd, optimeiddio perfformiad, a bygythiadau seiberddiogelwch. Ai Blockchain yw'r ddolen goll yn eich strategaeth ar gyfer twf ac arloesedd?


Cewch fewnwelediadau amhrisiadwy ar ffurf astudiaethau achos o'r byd go-iawn sy'n arddangos gallu Blockchain i wella effeithlonrwydd, hybu diogelwch, symleiddio cadwyni cyflenwi, a lleihau costau. Gallwch ymgysylltu ag arbenigwyr yn y diwydiant, cyfnewid syniadau, a dadorchuddio strategaethau y gellir eu gweithredu er mwyn gallu integreiddio Blockchain yn eich model busnes.

Gall Blockchain fynd i'r afael â:


  • Diogelwch Data: Mae Blockchain yn amddiffyn uniondeb data trwy ddefnyddio dulliau cryptograffig a storfa ddatganoledig, gan eich gwneud yn llai agored i fygythiadau seiber.
  • Aneffeithlonrwydd Gweithredol: Gall Blockchain leihau costau sy'n gysylltiedig â phrosesau aneffeithlon trwy awtomeiddio llif gwaith a dileu canolwyr.
  • Ymddiriedaeth a Thryloywder: Mae Blockchain yn meithrin ymddiriedaeth ymhlith rhanddeiliaid trwy ddarparu cyfriflyfr tryloyw a digyfnewid ar gyfer trafodion.
  • Cymhlethdod y Gadwyn Gyflenwi: Mae Blockchain yn symleiddio rheolaeth y gadwyn gyflenwi trwy sicrhau tryloywder a'r gallu i olrhain ar draws gwahanol randdeiliaid a fframweithiau rheoleiddio.
  • Mantais Gystadleuol: Mae Blockchain yn helpu busnesau i gadw'n gystadleuol trwy alluogi addasu cyflym i ddeinameg y farchnad a hwyluso modelau busnes arloesol.


Ymunwch â ni am sesiynau rhyngweithiol lle bydd y pryderon hyn yn cael eu harchwilio. Darperir lluniaeth i ysgogi sgyrsiau a chysylltiadau ystyrlon.

Pwy ddylai fynychu:


Mae'r digwyddiad Blockchain hwn wedi'i deilwra ar gyfer busnesau'r sector preifat a'r sector cyhoeddus ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan gwmpasu:


  • Arweinwyr Busnes: Yn enwedig y rhai sy'n blaenoriaethu datblygiadau mewn rheolaeth y gadwyn gyflenwi, arferion economi gylchol, cydymffurfiaeth â Sero Net, a chadw cofnodion digidol.
  • Y rhai sy'n Gwneud Penderfyniadau: Unigolion sy'n canolbwyntio ar integreiddio technoleg, strategaethau trawsnewid digidol, a manteisio ar ddata ar gyfer datblygiadau sefydliadol.
  • Arweinwyr Perfformiad ac Arloesedd: Proffesiynwyr sydd â'r dasg o ysgogi gwelliannau perfformiad a meithrin arloesedd o fewn eu sefydliadau eu hunain.


Mae cadw'n gystadleuol yn y farchnad fyd-eang heddiw yn golygu nid yn unig ymwybyddiaeth ond hefyd y posibilrwydd o fabwysiadu technoleg Blockchain. Mae'r gweithdy hwn yn darparu llwyfan hanfodol i archwilio potensial trawsnewidiol Blockchain a'i ddefnydd ar draws gwahanol ddiwydiannau.

Siaradwyr

Technology Connected yw'r Rhwydwaith sy'n uno pobl, diwydiannau a thechnolegau i gysylltu, cydweithio a chynnal busnes.


Fel llais y diwydiant technoleg yng Nghymru, rydym yn uno, yn hybu ac yn hyrwyddo'r sector ar y llwyfan byd-eang. Rydym yn tynnu sylw at Gymru fel canolfan arbenigedd a chyfle ar gyfer galluogi technolegau newydd, gan arddangos eu defnydd ymarferol ar gyfer busnes a chymdeithas heddiw.

Mae campws Thales Glynebwy yn gyfleuster o safon fyd-eang. Mae'n darparu amgylchedd a chyfleusterau cydweithredol sy'n galluogi datblygu a darparu datrysiadau diogel a chadarn ar gyfer systemau cysylltiedig cymhleth.


Mae'r Campws yn gartref i'r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Byd-eang ar gyfer diogelwch a gwytnwch mewn Technoleg Weithredol (OT), modurol ac ynni. Yn allweddol i'r gallu hwn mae CyberLab Thales UK, y mae'r Cybels Range yn greiddiol iddo, sef llwyfan efelychu a rhithwiroli ar gyfer hyfforddi, profi, gweithredu, ymchwil a dylunio.