Curious to discover how you can improve your business or organisation's efficiency, cost effectiveness, supply chain, and security?
Brought to you by Technology Connected, Cardiff Capital Region and Cardiff and Vale College, as part of the Cluster Development & Growth Programme, part funded by the UK Government's Shared Prosperity Fund, join us to delve into the transformative potential of blockchain technology for businesses and organisations. You will learn from others, exchange ideas, and gain insights first-hand from real-life case studies showcasing its potential applications.
Tuesday 25th June 2024
sbarc|spark campus, Cardiff
9AM - 1PM
Wednesday 26th June 2024
CCR Northern Valleys, Venue TBA
Half day format
What to expect
We'll explore in layman's terms what blockchain is but more importantly how blockchain can address common challenges faced by businesses and organisations, and the tangible benefits it offers. Whether you're seeking to enhance security, improve operations, or unlock new opportunities, this event is designed to provide valuable insights and practical knowledge.
Businesses and organisations today encounter a myriad of challenges in an increasingly complex and interconnected world, from reducing their carbon footprint to increasing performance to remain competitive in a world constantly under threat of cyber attack and data breaches, these challenges can hinder growth and innovation.
Key concerns include:
There will be open discussions and networking as part of the session, with refreshments provided.
Who is this Workshop for?
This workshop is for private sector and public sector organisations across Cardiff Capital Region, including:
Remaining competitive, especially for organisations operating in or seeking to operate in a global market, requires at a minimum, accurate blockchain awareness, if not adoption.
As of 2021, Blockdata reported 81 of the world's top 100 public companies were using blockchain technology, a trend which continues to grow.
Blockchain offers a range of solutions to address these challenges and unlock new opportunities for businesses and organisations. Here's how:
Technology Connected is the Network that unites people, industries, and technologies to connect, collaborate, and do business.
Technology Connected Blockchain serves as a dedicated network tailored for the blockchain community in Wales. Established by and integrated within the Technology Connected organisation, it aims to advocate for and unify the blockchain community in the region.
Ydych chi'n awyddus i ddarganfod sut y gallwch chi wella effeithlonrwydd, cost effeithiolrwydd, cadwyn gyflenwi a diogelwch eich busnes neu sefydliad?
Trefnwyd gan Ranbarth Dinas Caerdydd fel rhan o'r Rhaglen Datblygiad a Thwf Clwstwr, wedi'i gyllido'n rhannol gan Gronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU - ymunwch â ni i ymchwilio i botensial trawsnewidiol technoleg blockchain ar gyfer busnesau a sefydliadau. Byddwch yn dysgu gan eraill, yn cyfnewid syniadau, ac yn cael mewnwelediad uniongyrchol o astudiaethau achos go iawn sy'n arddangos posibiliadau ei ddefnyddio.
Dydd Mawrth 25ain Mehefin 2024
campws sbarc, Caerdydd
9am – 1pm
Dydd Mercher 26ain Mehefin 2024
Cymoedd Gogleddol Rhanbarth Caerdydd, Lleoliad i'w drefnu
Fformat hanner diwrnod
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl
Byddwn yn archwilio mewn termau lleygwyr beth yw blockchain, ond yn bwysicach fyth sut y gall blockchain fynd i'r afael â heriau cyffredin a wynebir gan fusnesau a sefydliadau, a'r buddion diriaethol y mae'n eu cynnig. P'un a ydych chi'n ceisio gwella diogelwch, gwella gweithrediadau, neu ddatgloi cyfleoedd newydd, mae'r digwyddiad hwn wedi'i gynllunio i ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr a gwybodaeth ymarferol.
Heddiw mae busnesau a sefydliadau'n wynebu myrdd o heriau mewn byd cynyddol gymhleth a rhyng-gysylltiedig, o leihau eu hôl troed carbon i gynyddu perfformiad i barhau'n gystadleuol mewn byd sydd o dan fygythiad cyson o ymosodiadau seiber a rhyddhau data'n ddamweiniol, gall yr heriau hyn lesteirio twf ac arloesedd.
Mae pryderon allweddol yn cynnwys:
Bydd trafodaethau agored a rhwydweithio fel rhan o'r sesiwn, gyda lluniaeth yn cael ei ddarparu.
Ar gyfer pwy mae'r Gweithdy hwn?
Mae'r gweithdy hwn ar gyfer sefydliadau'r sector preifat a'r sector cyhoeddus ar draws Prifddinas Ranbarth Caerdydd, gan gynnwys:
Mae cadw'n gystadleuol, yn enwedig ar gyfer sefydliadau sy'n gweithredu mewn marchnad fyd-eang neu'n ceisio gwneud hynny, yn gofyn am o leiaf ymwybyddiaeth gywir o blockchain, os nad ei fabwysiadu.
O 2021 ymlaen, nododd Blockdata fod 81 o'r 100 cwmni cyhoeddus mwyaf blaenllaw yn y byd yn defnyddio technoleg blockchain, tuedd sy'n parhau i dyfu.
Mae Blockchain yn cynnig ystod o atebion i fynd i'r afael â'r heriau hyn, gan ddatgloi cyfleoedd newydd i fusnesau a sefydliadau. Dyma sut:
Technology Connected yw'r Rhwydwaith sy'n uno pobl, diwydiannau a thechnolegau i gysylltu, cydweithio a chynnal busnes.
Mae Blockchain Technology Connected yn rhwydwaith pwrpasol sydd wedi'i deilwra ar gyfer y gymuned blockchain yng Nghymru. Wedi'i sefydlu gan Technology Connected ac wedi'i integreiddio o fewn y sefydliad hwnnw, ei nod yw hyrwyddo ac uno'r gymuned blockchain yn y rhanbarth.